Amdanom ni

Cyfleusterau Bio-ddiogel lefel uchel

Drwy ddarparu unig gyfleusterau labordy bio-ddiogel lefel uchel (CL3 a CL2) canolbarth Cymru (sydd ar gael i fusnesau) ar gyfer gweithio gyda micro-organebau pathogenig, bydd VetHub¹ yn ymgysylltu â BBaChau, Sefydliadau Addysg Uwch a chwmnïau rhyngwladol wrth ddatblygu gweithgareddau ymchwil/masnachol sy'n targedu clefydau o bwysigrwydd i iechyd anifeiliaid a'r cyhoedd.

Bydd VetHub¹ hefyd yn gweithio gyda'r llywodraeth a rhanddeiliaid eraill i ategu gwasanaethau cymorth Milfeddygol drwy Gymru ac i wella galluoedd/cynlluniau wrth gefn cenedlaethol (wrth ganfod pathogenau).  Byddwn hefyd yn cefnogi ein defnyddwyr/partneriaid i ddatblygu gweithgareddau cychwynnol a gweithgareddau sy’n deillio o hyn.


Gwasanaethau Milfeddygol

Drwy gynnig gwasanaethau milfeddygol yng Nghymru a gyflawnir fel arfer mewn mannau eraill a thrwy helpu i ganfod pathogen lle na all y cyfleusterau presennol ateb y galw, bydd VetHub¹ yn cyfrannu at rwydwaith cyd-nerthu cenedlaethol sy'n cynorthwyo practisau milfeddygol a ffermwyr.

Bydd effaith ychwanegol gwasanaethau VetHub¹ hefyd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu strategaethau/polisïau Llywodraeth leol a cenedlaethol yn y dyfodol a'u gweithredu ar hyn o bryd.

Bydd VetHub¹ hefyd yn fodd i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd a gwell i gefnogi'r diwydiant iechyd anifeiliaid.

Ymchwil dan sylw

  • Paraseitiaid

    Cysylltir Prifysgol Aberystwyth ag arbenigedd mewn paraseitiaid da byw ers tro, gan...

  • Brainwaves

    Beth yw prosiect BRAINWAVES? Mae Brainwaves yn cymryd ymagweddiad economi gylchog at amaethyddiaeth gynaliadwy. Gan ddefnyddio planhigyn...

  • Clefyd Johnes

    Mae’r clefyd cronig hwn, sy’n cael ei achosi gan facteriwm, Mycobacterium avium, is-rywogaeth...

  • CIEL

    CIEL: Canolfan Rhagoriaeth Arloesi mewn Da Byw Mae gweithgareddau VetHub¹ hefyd yn digwydd...

Back to Top