Datblygiad ein Safle

Cynnydd ar Adeiladu VetHub1

MAE’R GWAITH O ADEILADU CANOLFAN FILFEDDYGOL O’R RADD FLAENAF GWERTH £4.2M I ARWAIN GWAITH YMCHWIL I DDIOGELU IECHYD ANIFEILIAID AC IECHYD DYNOL bellach wedi gorffen

Dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth a gyda chymorth grant gwerth £3m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru, mae VetHub1 yn darparu ardaloedd cyfarfod, swyddfeydd a labordai lefel 2 a 3 manyleb uchel gyda’r holl offer diweddaraf. Mae’r holl ofodau ar gael i’w rhentu ar sail fasnachol, cysylltwch â ni’n uniongyrchol i drafod eich gofynion.

Dechreuodd y gwaith adeiladu yn 2019 a gorffennwyd y gwaith yn 2021. Gellir gweld y cynnydd wrth adeiladu VetHub1 yn yr oriel lluniau isod.

Oriel o Osodiadau Labordai VetHub1

Oriel Gosodiadau Terfynol VetHub1

Oriel o Osodiadau Cychwynnol VetHub1

Oriel o Waith Galluogi VetHub1

Back to Top