{"id":2807,"date":"2020-09-22T10:29:27","date_gmt":"2020-09-22T09:29:27","guid":{"rendered":"http:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/?page_id=2807"},"modified":"2025-09-03T16:55:08","modified_gmt":"2025-09-03T15:55:08","slug":"events","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/events\/?lang=cy","title":{"rendered":"Digwyddiadau"},"content":{"rendered":"<div class=\"row \">\n<div class=\"span8 \"><h1><a href=\"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/events\/cynhadledd-aber-tb-2025\/?lang=cy\">ABER TB 2025 - Prifysgol Aberystwyth<\/a><\/h1>\n<h2>Brechiad - 17 Medi 2025<\/h2>\n<p>Cynhelir gan Ganolfan Ragoriaeth S\u00ear Cymru ar gyfer TB Buchol, Canolfan Milfeddygaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth a VetHub1.<\/p>\n<p>Cliciwch am ragor o wybodaeth: <a href=\"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/events\/cynhadledd-aber-tb-2025\/?lang=cy\">Cynhadledd TB Aber 2025<\/a><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-3245\" src=\"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/TB_Logos.jpg\" alt=\"\" width=\"1799\" height=\"179\" srcset=\"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/TB_Logos.jpg 1799w, https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/TB_Logos-300x30.jpg 300w, https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/TB_Logos-1024x102.jpg 1024w, https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/TB_Logos-768x76.jpg 768w, https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/TB_Logos-1536x153.jpg 1536w\" sizes=\"auto, (max-width: 1799px) 100vw, 1799px\" \/><\/p>\n<div class=\"sm_hr\"><\/div><!-- .sm_hr (end) -->\n<h1>Cymrodoriaethau UKRI i Arweinwyr y Dyfodol<\/h1>\n<h2><a href=\"https:\/\/www.ukri.org\/what-we-do\/developing-people-and-skills\/future-leaders-fellowships\/\">Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol \u2013 UKRI<\/a> @Aberystwyth<\/h2>\n<p>Mae rownd 10 o gynllun Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol (FLF) a gynhelir gan Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI) wedi'i chyhoeddi ac mae Prifysgol Aberystwyth yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb oddi wrth ymgeiswyr sy'n dymuno gwneud cais am gynllun Cymrodoriaethau UKRI, a leolir gydag Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth.<\/p>\n<p>Nod cynllun FLF yw magu\u2019r to nesaf o arweinwyr ymchwil ac arloesi o'r safon uchaf yn y byd academaidd, byd busnes ac mewn amgylcheddau arloesol eraill. Mae'r cynllun yn cynorthwyo prifysgolion, sefydliadau ymchwil a busnesau i ddatblygu eu hymchwilwyr, eu harloeswyr a\u2019u darpar arweinwyr mwyaf talentog, neu i ddenu pobl newydd i'w sefydliadau. Mae'r cynllun hefyd yn agored i ymgeiswyr rhyngwladol sydd am ymgymryd \u00e2 r\u00f4l mewn sefydliad yn y DU.<\/p>\n<p>Dylai\u2019r ymgeiswyr ymgyfarwyddo \u00e2 dogfen galwad y cyllidwr i weld a ydynt yn haddas i\u2019r cynllun. Gellir dod o hyd i fanylion llawn y cynllun ar <a href=\"https:\/\/www.ukri.org\/opportunity\/future-leaders-fellowships-round-10\/\">wefan UKRI.<\/a><\/p>\n<p>Mae Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ganolfan ymchwil a dysgu o fri rhyngwladol, sy'n darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil sy\u2019n ymateb i heriau byd-eang megis diogelu cyflenwadau bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd\u2060, afiechydon heintus ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, yn ogystal \u00e2 gwyddoniaeth ddarganfod bur. Mae ein harbenigwyr yn cynnal ymchwil ar enynnau a moleciwlau, ar organebau cyfan a'r amgylchedd, ac yn cael eu cydnabod am arwain ymchwil byd-enwog. Er enghraifft, mae gwaith arloesol Prifysgol Aberystwyth yn helpu i fynd i\u2019r afael ag effaith ddinistriol llyngyr lledog parasitig, sy\u2019n achosi clefydau mewn pobl ac mewn da byw, ac fe gafwyd cydnabyddiaeth am y gwaith hwnnw yng Ngwobrau Pen-blwydd y Frenhines yn 2023.<\/p>\n<p>Mae gan Brifysgol Aberystwyth hyd at 2 le ar gael ac maent yn chwilio am ymgeiswyr addas a fydd yn cyd-fynd \u00e2'r meysydd ymchwil isod.<\/p>\n<p>Mae croeso i ymgeiswyr yn y meysydd canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Rhyngweithio rhwng y lletywr a\u2019r pathogen (yn cydweithio \u00e2 Chanolfan Ragoriaeth S\u00ear Cymru ar gyfer TB Gwartheg (CBTB) a Chanolfan a Labordai Milfeddygol<sup>1<\/sup>),<\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li>Parasitoleg anifeiliaid a dynol,<\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li>Amaethyddiaeth gynaliadwy a bwydydd iach,<\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li>Ymaddasu at newid yn yr hinsawdd a lliniaru ei effeithiau,<\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li>Iechyd anifeiliaid a dynol cydgysylltiedig,<\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li>Bioamrywiaeth - ymchwilio a chadwraeth.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Y cyfleusterau a'r amgylchedd:<\/p>\n<p>Amgylchynir tref Aberystwyth gan amgylchedd naturiol hardd a chynefinoedd amrywiol. Rhwng mynyddoedd y Canolbarth a glannau Bae Ceredigion, mae'n cynnig tirwedd o fryniau tonnog, dyffrynnoedd, traethau a\u2019r m\u00f4r.\u00a0 Nid yw parciau cenedlaethol enwog Eryri a Sir Benfro yn bell o Aberystwyth, sy\u2019n cynnig cyfleoedd gwych i fwynhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd.<\/p>\n<p>Ceir y cyfleusterau ymchwil isod yn Aberystwyth, sydd heb eu hail, ac rydym yn annog ymgeiswyr i ystyried llunio eu cais eu hunain o amgylch defnyddio\u2019r offer diweddaraf.<\/p>\n<p>Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Canolfan Ragoriaeth S\u00ear Cymru ar gyfer TB Gwartheg (CBTB), a Chanolfan a Labordai Milfeddygol1, y ddwy mewn lle canolog ar Gampws Prifysgol Aberystwyth. Mae <a href=\"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/portfolio-view\/canolfan-ragoriaeth-mewn-tb-buchol-btb\/?lang=cy\">CBTB<\/a> yn ganolfan ymchwil gydweithredol a rhyngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd ag arbenigedd ar TB buchol (bTB), a\u2019i nod yw cynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddileu'r clefyd a darparu arweinyddiaeth ryngwladol yn y maes. <a href=\"http:\/\/www.vethub1.co.uk\/\">Mae Canolfan a Labordai Milfeddygol1<\/a> yn darparu adnoddau diogel o'r radd flaenaf i astudio pathogenau sy\u2019n effeithio ar anifeiliaid a phobl.\u00a0 Drwy\u2019r ddwy ganolfan hyn fe fydd Cymrodyr Arweinydd y Dyfodol yn cael manteisio ar arbenigedd academaidd o'r radd flaenaf ac ar offer labordy Lefelau Cyfyngu 2 a 3 er mwyn cael gweithio gyda micro-organebau pathogenaidd peryglus. Ynghyd \u00e2 Chanolfan a Labordai<sup>1<\/sup>, mae rhai o'r prif gyfleusterau ymchwil a ddarperir gan Adran y Gwyddorau Bywyd yn cynnwys: Cabinetau Diogelwch Microbiolegol Dosbarth I, Dosbarth II a Dosbarth III, Microsgopeg \u2013 llwyfannau paratoi samplau, microsgopau sganio sleidiau, fflwroleuol a maes-llachar (Zeiss Axio Scan Z1 ac Axio Imager Z2) microsgopau sganio laser cydffocal (TCS SP5 a SP8), profion moleciwlaidd trwybwn uchel (qRT-PCR QuantStudio 7 a 12 a PCR digidol) ac imiwnolegol (ELISA), Darllenydd ELISPOT(CTL Immunospot S6 Universal), Dadansoddwr Aml-bleth (Luminex 200), Ymdriniaeth hylif awtomataidd (Eppendorf EpMotion 5070 a 5075t), Cytometreg Llif \u2013 Dadansoddwr (Beckman Coulter Cytoflex LX) a didolwr celloedd (Miltenyi Biotec Tyto), Dadansoddi Metabolaidd (llwyfan Agilent Seahorse XF), System Dadansoddi Celloedd Sengl (Becton Dickenson Rhapsody), Trawsgriptomeg (Proffilydd Nanostring Sprint), Microchwistrellu (WPI Microinjector MICRO ePUMP gyda bwrdd aer).<\/p>\n<p>Mae cyfleusterau amaethu anifeiliaid yn golygu y gellir cynnal ymchwil i wartheg godro a defaid ar dir ffermio iseldir a mynyddig. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys diadell defaid y Brifysgol, a'r fuches odro, gan gynnwys y robotiaid godro awtomataidd sydd wedi\u2019u gosod yn ddiweddar.\u00a0 Mae'r adran hefyd yn cynnal llwyfan ymchwil i anifeiliaid cnoi-cil bychain, sef CIEL (\u00a31.4M, Innovate UK a Phrifysgol Aberystwyth), sy'n cynnwys offer arbenigol fel siambrau resbiradaeth ac allyriadau methan, sy\u2019n hwyluso gwaith monitro maeth a metaboledd anifeiliaid cnoi cil. Mae gan yr adran ddarpariaeth ardderchog ar gyfer ceffylau hefyd, gan gynnwys stablau ar gyfer 60 o geffylau a chyfleuster unswydd ar gyfer ymchwil i geffylau.\u00a0 Mae'r adran yn cynnal uned acwaria cyfoes o faint da sy\u2019n cynnwys d\u0175r croyw a d\u0175r heli ailgylchredeg.<\/p>\n<p>Mae Adran y Gwyddorau Bywyd hefyd yn cynnal adnodd cylch bywyd <em>Schistosoma mansoni<\/em> mewn Uned Gwasanaethau Biolegol sydd newydd ei hadnewyddu, a llwyfan awtomataidd, trwybwn uchel (Dyfais Foleciwlaidd Delweddu Cynnwys Uchel, Agilent Cytation 7) ar gyfer adnabod cyfansoddion newydd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o gyffuriau anthelmintig.<\/p>\n<p>Y broses ymgeisio:<\/p>\n<p>Anfonwch ebost at jqs@aber.ac.uk os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch. Anfonir templedi ar gyfer ffurflen mynegi diddordeb a CV atoch a dylid eu dychwelyd erbyn 23-01-2025.<\/p>\n<p>Bydd panel ymgeisio mewnol Prifysgol Aberystwyth wedyn yn asesu\u2019r ceisiadau ac yn dewis y ddau a fydd yn mynd ymlaen i'r cam ymgeisio llawn. Gweler crynodeb o broses fewnol y Brifysgol isod:<\/p>\n<ol>\n<li>Bydd darpar ymgeiswyr yn cyflwyno mynegiant o ddiddordeb (EOI) a CV at <a href=\"mailto:jqs@aber.ac.uk\">jqs@aber.ac.uk<\/a> erbyn 23.01.2025.<\/li>\n<\/ol>\n<ol>\n<li>Bydd y mynegiant o ddiddordeb (EOI) yn cael ei ystyried gan banel o fewn Adran y Gwyddorau Bywyd.<\/li>\n<\/ol>\n<ol>\n<li>Bydd y mynegiannau llwyddiannus yn symud ymlaen yn awtomatig i bwyllgor asesu adrannol y Brifysgol, sy'n cael ei gadeirio gan y Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil.<\/li>\n<\/ol>\n<ol>\n<li>Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod am y canlyniad a bydd rhaid cyflwyno cynigion llawn i UKRI erbyn 18-06-2025<\/li>\n<\/ol>\n<p>Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned yn enwedig y rhai heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd.\u00a0 Mae hyn yn cynnwys, ymhlith eraill, ymgeiswyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ymgeiswyr ag anableddau, a menywod.<\/p>\n<p>Am ymholiadau cyffredinol, cysylltwch \u00e2 Jackie Sayce <a href=\"mailto:jqs@aber.ac.uk\">jqs@aber.ac.uk<\/a> gan roi \u201cUKRI\u201d ym mhennawd testun yr ebost.<\/p><\/div>\n<div class=\"span4 \"><h2>Digwyddiadau'r Gorffennol<\/h2>\n<div class=\"well normal\">\n<h3>Cynadleddau AberTB<\/h3>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/events\/aber-tb-2024\/?lang=cy\">Aber TB 2024 Cynhadledd<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/events\/2023-abertb-cynhadledd\/?lang=cy\">AberTB 2023 Cynhadledd<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/events\/2020-aber-tb-event\/\">AberTB 2020 Cynhadledd<\/a><\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/AberTB-Poster-English-Welsh-3.9.19.pdf\">AberTB 2019 Poster Cynhadledd<\/a><\/li>\n<li><a href=\"http:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/AberTB-Diagnosis-of-Bovine-Tuberculosis-3.9.19.pdf\">AberTB 2019 Rhaglen<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<\/div><\/div>\n<div class=\"row \"><\/div><!-- .row (end) -->\n<div class=\"span8 \"><p>&nbsp;<\/p><\/div>\n<\/div><!-- .row (end) -->\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-fullwidth.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-2807","page","type-page","status-publish","hentry"],"jetpack_sharing_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2807","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2807"}],"version-history":[{"count":31,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2807\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3440,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2807\/revisions\/3440"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2807"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}