{"id":2463,"date":"2017-07-24T12:23:54","date_gmt":"2017-07-24T11:23:54","guid":{"rendered":"http:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/?p=2463"},"modified":"2020-07-10T12:25:22","modified_gmt":"2020-07-10T11:25:22","slug":"cyfleusterau-milfeddygol-newydd-gwerth-4-2-miliwn-gyda-chefnogaeth-yr-ue-yn-aberystwyth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/2017\/07\/cyfleusterau-milfeddygol-newydd-gwerth-4-2-miliwn-gyda-chefnogaeth-yr-ue-yn-aberystwyth\/?lang=cy","title":{"rendered":"Cyfleusterau milfeddygol newydd gwerth \u00a34.2 miliwn gyda chefnogaeth yr UE yn Aberystwyth"},"content":{"rendered":"<p>Heddiw, cyhoeddodd Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, gynlluniau ar gyfer datblygu hyb milfeddygol newydd sbon gwerth \u00a34.2 miliwn i hyrwyddo ymchwil i ddiogelu iechyd dynol ac anifeiliaid (dydd Llun 24 Gorffennaf 2017).<\/p>\n<p>Bydd Prifysgol Aberystwyth yn arwain y prosiect Hyb Milfeddygol 1, gyda chefnogaeth ariannol o \u00a33 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, i ddatblygu swyddfeydd a labordy manyleb uchel sy\u2019n cynnwys yr holl gyfarpar angenrheidiol.<\/p>\n<p>Dywedodd yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd wrth gynulleidfa niferus ym mhafiliwn addysg Prifysgol Aberystwyth yn Sioe Frenhinol Cymru y byddai\u2019r datblygiad blaengar o fudd i\u2019r diwydiant ffermio yng Nghymru a\u2019r byd ehangach.<\/p>\n<p>Meddai: \u201cBydd y buddsoddiad hwn, gyda chefnogaeth yr UE, yn gymorth i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r heriau mawr sy\u2019n ein hwynebu o ran diogelwch bwyd a newid yn yr hinsawdd yn ogystal \u00e2 chanolbwyntio ar flaenoriaethau hirdymor Prifysgol Aberystwyth a Llywodraeth Cymru sef cefnogi gwyddorau milfeddygol ac iechyd anifeiliaid.<\/p>\n<p>\u201cHefyd, dros y blynyddoedd nesaf bydd yn datgloi amrywiaeth o gyfleoedd i fusnesau ar draws y gadwyn gyflenwi da byw a\u2019r diwydiannau cysylltiedig a fydd yn elwa ar y cyfleuster newydd, a\u2019r cyfleoedd ymchwil cydweithredol a fydd yn arwain at ddatblygu cynhyrchion newydd a gwasanaethau ar gyfer y farchnad fyd-eang.\u201d<\/p>\n<p>Yn sgil Hyb Milfeddygol 1, bydd ymchwilwyr yn cydweithio \u00e2 diwydiant i ddatblygu profion a brechlynnau\u00a0 a fydd yn helpu i leihau colledion yn y diwydiant da byw a gwella iechyd anifeiliaid.<\/p>\n<p>Yn benodol, bydd yr ymchwilwyr yn mynd ati i ddatblygu atebion ar gyfer clefydau a gludir gan anifeiliaid a allai drosglwyddo i bobl.<\/p>\n<p>Hefyd, bydd y cyfleuster yn arwain datblygiadau pellach ym maes gofal iechyd anifeiliaid ac ymarfer milfeddygol yn ogystal \u00e2 biodechnoleg, cynhyrchu bwyd anifeiliaid a diwydiannau cysylltiedig eraill.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: \u201cMae gan Brifysgolion gyfraniad pwysig yn y gwaith o ddatblygu ymchwil sy\u2019n cael effaith ar y cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Bydd Hyb Milfeddygol 1 yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i\u2019r economi wledig ac i\u2019r diwydiant da byw yma yng Nghymru a thu hwnt. Rydym ni\u2019n falch o fod yn cydweithio ar y prosiect hwn gyda Phartneriaeth Tyfu\u2019r Canolbarth, Canolfan Gwyddorau Milfeddygol Cymru a phartneriaid eraill.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r cyfleuster hefyd yn gam pellach ymlaen yn natblygiad Aberystwyth fel canolfan o arbenigedd milfeddygol. Mae ein trafodaethau gyda\u2019r Coleg Milfeddygol Brenhinol (RVC) yn parhau ar gynlluniau i gynnig rhaglen ar y cyd lle gall myfyrwyr gwyddorau milfeddygol yn Aberystwyth dreulio rhan o\u2019u hamser yn astudio yn yr RVC a myfyrwyr yr RVC yn astudio rhai agweddau ar eu hyfforddiant yma, yn enwedig ymarfer gydag anifeiliaid mawr.\u201d<\/p>\n<p>Meddai Phil Thomas, milfeddyg o ardal Aberystwyth a Chyfarwyddwr Iechyd Da sy\u2019n gonsortiwm o filfeddygfeydd annibynnol o Gymru ynghyd \u00e2 Welsh Lamb and Beef Producers Ltd a Phrifysgol Aberystwyth:<\/p>\n<p>\u201cMae Hyb Milfeddygol 1 yn ddatblygiad cyffrous ar gyfer gwasanaethau milfeddygol anifeiliaid yn Aberystwyth a\u2019r Canolbarth. Yn sgil lansio Canolfan Gwyddorau\u00a0 Milfeddygol Cymru gan Iechyd Da a Phrifysgol Aberystwyth yn 2015, bydd y cyfleusterau labordy newydd hyn yn ddull integredig ar gyfer cael diagnosis o glefydau a\u2019u dileu er lles cynhyrchwyr a defnyddwyr da byw fel ei gilydd. Hefyd, gallai\u2019r datblygiad ddarparu ffocws ar gyfer busnesau i ddatblygu cynhyrchion newydd a gwasanaethau, yn ogystal \u00e2\u2019r potensial o greu swyddi newydd o ansawdd uchel yn yr ardal.\u201d<\/p>\n<p>Mae Prifysgol Aberystwyth wedi sicrhau \u00a3650 mil o fuddsoddiad pellach gan CIEL (Canolfan Rhagoriaeth mewn Arloesedd ym maes Da Byw) i wyddorau anifeiliaid sy\u2019n gweithio ochr yn ochr \u00e2 Hyb Milfeddygol 1.<\/p>\n<p>Mae\u2019r brifysgol yn un o\u2019r 13 o sefydliadau ymchwil el\u00eet\u00a0 yn y fframwaith CIEL ledled y DU sy\u2019n darparu porth sy\u2019n canolbwyntio ar sefydliadau ymchwil safon byd i ddatblygu atebion newydd i ddiwydiant mewn partneriaeth \u00e2 19 o gwmn\u00efau masnachol.<\/p>\n<p>Trwy gydweithio \u00e2 CIEL bydd y bartneriaeth fasnachol o fewn Hyb Milfeddygol 1 yn cryfhau ac yn sicrhau ei bod yn parhau i ganolbwyntio ar ddod \u00e2 chynhyrchion newydd i\u2019r farchnad.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Heddiw, cyhoeddodd Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, gynlluniau ar gyfer datblygu hyb milfeddygol newydd sbon gwerth \u00a34.2 miliwn i hyrwyddo ymchwil i ddiogelu iechyd dynol ac anifeiliaid (dydd Llun 24 Gorffennaf 2017). Bydd Prifysgol Aberystwyth yn arwain y prosiect Hyb Milfeddygol 1, gyda chefnogaeth ariannol o \u00a33 miliwn gan Gronfa&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":2450,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[41],"tags":[],"class_list":["post-2463","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori-cy","cat-41-id"],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/NewProject.jpg","jetpack_sharing_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2463","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2463"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2463\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2465,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2463\/revisions\/2465"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2450"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2463"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2463"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2463"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}