{"id":2466,"date":"2019-05-09T12:25:49","date_gmt":"2019-05-09T11:25:49","guid":{"rendered":"http:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/?p=2466"},"modified":"2020-07-10T12:26:27","modified_gmt":"2020-07-10T11:26:27","slug":"gwaith-yn-dechrau-ar-ganolfan-ymchwil-filfeddygol-newydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/2019\/05\/gwaith-yn-dechrau-ar-ganolfan-ymchwil-filfeddygol-newydd\/?lang=cy","title":{"rendered":"Gwaith yn dechrau ar ganolfan ymchwil filfeddygol newydd"},"content":{"rendered":"<p>Mae gwaith wedi dechrau ar ganolfan filfeddygol newydd \u00a34.2m a fydd yn gyrru ymchwil i ddiogelu iechyd dynol ac anifeiliaid.<\/p>\n<p>Prifysgol Aberystwyth sy\u2019n arwain prosiect Canolfan a Labordai Milfeddygol1, gyda chefnogaeth ariannol o \u00a33 miliwn gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn darparu labordai a gofod swyddfa o\u2019r safon uchaf.<\/p>\n<p>Bydd ymchwilwyr yn y ganolfan yn cydweithio \u00e2 diwydiant i ddatblygu profion a brechlynnau a fydd yn helpu i leihau colledion yn y diwydiant da byw a gwella iechyd anifeiliaid.<\/p>\n<p>Yn benodol, bydd yr ymchwilwyr yn mynd ati i ddatblygu atebion ar gyfer clefydau a gludir gan anifeiliaid a allai drosglwyddo i bobl.<\/p>\n<p>Hefyd, bydd y cyfleuster yn arwain datblygiadau pellach ym maes gofal iechyd anifeiliaid ac ymarfer milfeddygol yn ogystal \u00e2 biodechnoleg, cynhyrchu bwyd anifeiliaid a diwydiannau cysylltiedig eraill.<\/p>\n<p>Wedi ei lleoli yn adeilad Carwyn James ar gampws Penglais y Brifysgol, mae disgwyl i\u2019r ganolfan fod yn llawn weithredol erbyn gwanwyn 2020, ac mae\u2019r gwaith paratoadol eisoes ar droed.<\/p>\n<p>Dywedodd yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi Prifysgol Aberystwyth: \u201cMae\u2019n hyfryd i weld y gwaith yn dechrau ar y datblygiad hwn. Mae gan Brifysgolion gyfraniad pwysig yn y gwaith o ddatblygu ymchwil sy\u2019n cael effaith ar y cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Bydd Canolfan a Labordai Milfeddygol1 yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i\u2019r economi wledig ac i\u2019r diwydiant da byw yma yng Nghymru a thu hwnt. Mae\u2019r adnodd hefyd yn gam arall ymlaen yn natblygiad Aberystwyth fel canolfan o arbenigedd milfeddygol a gofal iechyd anifeiliaid yn ogystal \u00e2 biodechnoleg.\u201d<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 chyllid Cronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop, mae Prifysgol Aberystwyth wedi sicrhau buddsoddiad pellach o \u00a3650,000 gan CIEL (Canolfan Rhagoriaeth\u00a0ar gyfer Arloesedd ym maes Da Byw) drwy gyllid gan Innovate UK ar gyfer adnodd gwyddor anifeiliaid i weithio ochr yn ochr \u00e2 Chanolfan a Labordai Milfeddygol1.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Brifysgol yn un o 12 sefydliad ymchwil el\u00eet o fewn fframwaith CIEL ledled y DU sy\u2019n gweithredu fel porth at sefydliadau ymchwil safon byd i ddatblygu atebion newydd i ddiwydiant mewn partneriaeth \u00e2 rhwydwaith o 50 o gwmn\u00efau masnachol.<\/p>\n<p>Trwy gydweithio \u00e2 CIEL bydd y bartneriaeth fasnachol o fewn Canolfan a Labordai Milfeddygol1 yn cryfhau ac yn sicrhau ei bod yn parhau i ganolbwyntio ar ddod \u00e2 chynhyrchion newydd i\u2019r farchnad.<\/p>\n<p>Am y newyddion diweddaraf ar gynllun Canolfan a Labordai Milfeddygol1, dilynwch gyfri twitter newydd y prosiect <a href=\"https:\/\/twitter.com\/VetHub1\">@VetHub1<\/a>, sydd wedi\u2019i lansio ddydd Iau 9 Mai i nodi Diwrnod Ewrop.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae gwaith wedi dechrau ar ganolfan filfeddygol newydd \u00a34.2m a fydd yn gyrru ymchwil i ddiogelu iechyd dynol ac anifeiliaid. Prifysgol Aberystwyth sy\u2019n arwain prosiect Canolfan a Labordai Milfeddygol1, gyda chefnogaeth ariannol o \u00a33 miliwn gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn darparu labordai a gofod swyddfa o\u2019r safon uchaf. Bydd&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":2456,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[41],"tags":[],"class_list":["post-2466","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori-cy","cat-41-id"],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/Breaking-Ground.jpg","jetpack_sharing_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2466","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2466"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2466\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2468,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2466\/revisions\/2468"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2456"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2466"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2466"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2466"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}