{"id":2469,"date":"2019-09-17T12:26:58","date_gmt":"2019-09-17T11:26:58","guid":{"rendered":"http:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/?p=2469"},"modified":"2020-07-10T12:27:35","modified_gmt":"2020-07-10T11:27:35","slug":"abertb-llwyfan-newydd-ar-gyfer-cydweithio-yn-y-frwydr-yn-erbyn-tb-gwartheg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/2019\/09\/abertb-llwyfan-newydd-ar-gyfer-cydweithio-yn-y-frwydr-yn-erbyn-tb-gwartheg\/?lang=cy","title":{"rendered":"AberTB \u2013 llwyfan newydd ar gyfer cydweithio yn y frwydr yn erbyn TB gwartheg"},"content":{"rendered":"<p>Mae\u2019r Ganolfan Ragoriaeth TB Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn agor ei chynhadledd AberTB gyntaf heddiw, dydd Mawrth 17 Medi 2019, gan addo y daw\u2019r digwyddiad blynyddol yn llwyfan newydd ar gyfer cydweithio yn y frwydr yn erbyn TB gwartheg.<\/p>\n<p>Mae\u2019r digwyddiad undydd eleni yn canolbwyntio ar \u201cDiagnosis TB gwartheg: ymarfer cyfredol a datblygiadau\u2019r dyfodol\u201d, ac yn cael ei gynnal yn adeilad MedRus, ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gynhadledd wedi\u2019i threfnu gan Ganolfan Ragoriaeth TB Gwartheg sy\u2019n cael ei datblygu ar hyn o bryd gan Brifysgol Aberystwyth.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Ganolfan wedi derbyn cefnogaeth S\u00ear Cymru II, rhaglen a sefydlwyd er mwyn ehangu a datblygu arbenigedd ymchwil yng Nghymru. Caiff y rhaglen ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru a\u2019r Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd.<\/p>\n<p>Mae AberTB 2019 yn cael ei chynnal mewn partneriaeth \u00e2 Menter a Busnes a Iechyd Da, ynghyd \u00e2 Chanolfan Milfeddygaeth Cymru a Chanolfan a Labordai Milfeddygol1 sydd wedi cydweithio\u2019n agos \u00e2\u2019r Ganolfan Ragoriaeth er mwyn hwyluso trefniadau\u2019r digwyddiad.<\/p>\n<p>Meddai Pennaeth y Ganolfan Ragoriaeth TB Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr Athro Glyn Hewinson: \u201cMae\u2019n bleser mawr i mi groesawu pobl i Aberystwyth ar gyfer ein cynhadledd AberTB gyntaf.\u00a0 Mae\u2019n fwriad gen i sicrhau y daw AberTB yn gynhadledd flynyddol ac yn llwyfan newydd a fydd yn hybu ein cydymdrechion i frwydro yn erbyn TB mewn gwartheg.<\/p>\n<p>\u201cMae digwyddiad eleni yn canolbwyntio ar ddiagnosis TB mewn gwartheg \u2013 sef maes sy\u2019n gwbl allweddol i rwystro\u2019r clefyd rhag lledaenu.\u00a0 Fodd bynnag, fe fyddwn yn asesu ffocws mwyaf defnyddiol i gynadleddau\u2019r dyfodol mewn ymateb i\u2019r adborth a geir gan y rheini sy\u2019n benderfynol o gael gwared \u00e2 TB mewn gwartheg.\u201d<\/p>\n<p>Mi fydd AberTB 2019 yn cynnwys areithiau allweddol a phaneli trafod gyda ffigyrau amlwg ym meysydd iechyd anifeiliaid a gwyddoniaeth filfeddygol, ymchwil, llywodraeth ac amaeth. Yn ystod y dydd, mi fydd y gynhadledd yn clywed anerchiad allweddol gan Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, yr Athro Christianne Glossop.<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Athro Chistianne Glossop: \u201cMae adnabod achosion o\u2019r haint yn gynnar ac yn gywir yn un o gonglfeini ein rhaglen gwaredu TB, ac rwyf wrth fy modd bod y gynhadledd AberTB gyntaf hon yn canolbwyntio ar yr agwedd bwysig hon o\u2019n siwrne tuag at Gymru heb TB.\u00a0 Mae sefydlu Canolfan Ragoriaeth TB gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth \u00e2 chefnogaeth rhaglen S\u00ear Cymru, yn gosod Cymru ar flaen y gad ym maes diagnosis TB ac edrychaf ymlaen at glywed gan y goreuon yn y gynhadledd, ac at sicrhau bod y dechnoleg ddiweddara yn cael ei chynnwys yn ein rhaglen.\u201d<\/p>\n<p>Meddai Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Elizabeth Treasure, a fydd hefyd yn annerch AberTB: \u201cMae ein Canolfan Ragoriaeth TB gwartheg yn ddatblygiad newydd pwysig a fydd yn chwarae r\u00f4l gynyddol arwyddocaol mewn ymdrechion lleol a chenedlaethol i atal y clefyd.\u00a0 Mi fydd menter AberTB yn fforwm parhaol a fydd yn sicrhau bod gwaith y Ganolfan yn cael ei rannu, gan greu canolbwynt ar gyfer cydweithio yn y maes allweddol-bwysig hwn am flynyddoedd i ddod.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r Ganolfan Ragoriaeth TB Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn agor ei chynhadledd AberTB gyntaf heddiw, dydd Mawrth 17 Medi 2019, gan addo y daw\u2019r digwyddiad blynyddol yn llwyfan newydd ar gyfer cydweithio yn y frwydr yn erbyn TB gwartheg. Mae\u2019r digwyddiad undydd eleni yn canolbwyntio ar \u201cDiagnosis TB gwartheg: ymarfer cyfredol a datblygiadau\u2019r dyfodol\u201d, ac&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":2460,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[41],"tags":[],"class_list":["post-2469","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-heb-gategori-cy","cat-41-id"],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/ABTBC_calves2-web.jpg","jetpack_sharing_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2469","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2469"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2469\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2471,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2469\/revisions\/2471"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2460"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2469"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2469"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/vethub1.co.uk\/cms\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2469"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}