Aber TB 2024

ABER TB 2024 - Prifysgol Aberystwyth

Dimensiynau Cymdeithasol Rheoli TB - 18 Medi 2024

Lawrlwythwch y rhaglen

Cynhelir gan Ganolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer TB Buchol, Canolfan Milfeddygaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth a VetHub1.

Mewn blynyddoedd blaenorol rydym wedi cynnal cynadleddau sy’n canolbwyntio ar brofi TB, Bioddiogelwch, a Bywyd Gwyllt, ac mae thema eleni, sef ‘Dimensiynau Cymdeithasol Rheoli TB’, yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, ar gyfer rheoli clefydau’n effeithiol a’u dileu.

Mae cydweithio, grymuso a meithrin cyswllt yn hanfodol ar gyfer y frwydr barhaus yn erbyn TB buchol yma yng Nghymru. Eleni, bydd cynhadledd AberTB yn trin a thrafod dimensiynau cymdeithasol TB buchol gan gynnwys gwyddoniaeth newid ymddygiad a phwysigrwydd cynnwys yr holl randdeiliaid wrth gyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio polisïau ac ymyriadau rheoli clefydau, gan gynnwys enghreifftiau o achosion llwyddiannus lle mae'r Llywodraeth, y Diwydiant a'r Proffesiwn Milfeddygol wedi cydweithio i ddileu TB.

Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni ar gyfer cynhadledd sy’n ysgogi’r meddwl lle byddwn yn gofyn i’n hunain sut y gallwn sicrhau dull rhanbarthol llwyddiannus o ddileu TB yng Nghymru?

Lawrlwythwch y rhaglen yma: Rhaglen AberTB 2024

 

 

Back to Top