Cyfleusterau Bio-ddiogel lefel uchel
Drwy ddarparu unig gyfleusterau labordy bio-ddiogel lefel uchel (CL3 a CL2) canolbarth Cymru (sydd ar gael i fusnesau) ar gyfer gweithio gyda micro-organebau pathogenig, bydd VetHub¹ yn ymgysylltu â BBaChau, Sefydliadau Addysg Uwch a chwmnïau rhyngwladol wrth ddatblygu gweithgareddau ymchwil/masnachol sy'n targedu clefydau o bwysigrwydd i iechyd anifeiliaid a'r cyhoedd.
Bydd VetHub¹ hefyd yn gweithio gyda'r llywodraeth a rhanddeiliaid eraill i ategu gwasanaethau cymorth Milfeddygol drwy Gymru ac i wella galluoedd/cynlluniau wrth gefn cenedlaethol (wrth ganfod pathogenau). Byddwn hefyd yn cefnogi ein defnyddwyr/partneriaid i ddatblygu gweithgareddau cychwynnol a gweithgareddau sy’n deillio o hyn.
Gwasanaethau Milfeddygol
Drwy gynnig gwasanaethau milfeddygol yng Nghymru a gyflawnir fel arfer mewn mannau eraill a thrwy helpu i ganfod pathogen lle na all y cyfleusterau presennol ateb y galw, bydd VetHub¹ yn cyfrannu at rwydwaith cyd-nerthu cenedlaethol sy'n cynorthwyo practisau milfeddygol a ffermwyr.
Bydd effaith ychwanegol gwasanaethau VetHub¹ hefyd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu strategaethau/polisïau Llywodraeth leol a cenedlaethol yn y dyfodol a'u gweithredu ar hyn o bryd.
Bydd VetHub¹ hefyd yn fodd i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd a gwell i gefnogi'r diwydiant iechyd anifeiliaid.
Ymchwil dan sylw
Brainwaves
Beth yw prosiect BRAINWAVES? Mae Brainwaves yn cymryd ymagweddiad economi gylchog at amaethyddiaeth gynaliadwy. Gan ddefnyddio planhigyn...
Paraseitiaid
Cysylltir Prifysgol Aberystwyth ag arbenigedd mewn paraseitiaid da byw ers tro, gan...
Clefyd Johnes
Mae’r clefyd cronig hwn, sy’n cael ei achosi gan facteriwm, Mycobacterium avium, is-rywogaeth...
ArloesiAber
Mae ArloesiAber yn cynnig cyfleusterau ac arbenigedd o ansawdd byd-eang o fewn...