Milfeddygol1 yn darparu ystod o gyrsiau hyfforddi sydd ar gael i ddefnyddwyr y cyfleusterau. Gallwn gynnig y cyrsiau hyfforddiant canlynol:
Cyflwyniad
Mae peryglon biolegol yn peri risg i’r aelodau hynny o staff sy’n eu trin yn ogystal ag eraill yn y gweithle, ffrindiau a theulu, ac i'r boblogaeth ehangach. Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i egwyddorion trin peryglon biolegol yn ddiogel, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio adnoddau ac offer i gyfyngu ar y peryglon hyn.
Y Ddeddfwriaeth
Y darn allweddol o ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i drin peryglon biolegol yw Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH). Mae'r rheoliadau hyn yn sail i drin deunyddiau bioberyglus yn ddiogel, ac maent yn manylu ar sut i gynnal asesiadau risg addas a digonol. Maent hefyd yn gosod rhwymedigaethau ar gyflogwyr i ddarparu gwybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant i unrhyw un a allai fod yn agored i sylwedd bioberyglus.
Cynnwys
Bwriad y cwrs hwn yw darparu peth gwybodaeth am y gofynion o ran atal peryglon biolegol. Mae’r cwrs wedi’i rannu’n adrannau sy'n rhoi gwybodaeth gynhwysfawr am bopeth sy’n ymwneud â chyfyngu ar beryglon, yn ogystal â rhai enghreifftiau penodol o sut mae cyfyngu ar beryglon yn gweithio.
Nodau/Amcanion
Erbyn diwedd y cwrs hwn bydd dysgwyr yn:
- Deall y gofynion deddfwriaethol wrth drin deunyddiau bioberyglus
- Cydnabod canlyniadau peidio â chyfyngu ar ddeunyddiau biolegol peryglus
- Meddu ar brofiad o ddynodi cyfryngau heintus anhysbys
- Deall y cysyniad o reoli wrth y tarddiad
- Deall pwysigrwydd gwyliadwriaeth iechyd i weithwyr sy'n gweithio gyda sylweddau peryglus
- Meddu ar wybodaeth fanwl am ddulliau allweddol o gefnogi camau cyfyngu cychwynnol
Pwy ddylai fynychu
Mae'r cwrs hwn yn addas i bawb sy'n gweithio'n uniongyrchol â deunyddiau bioberyglus, yn enwedig y rhai sy'n gweithio ar Lefel Gyfyngu 2 neu’n uwch. Gallai deunyddiau bioberyglus fod yn ficro-organebau, gwaed dynol neu waed anifeiliaid a chynhyrchion sy'n deillio o waed, celloedd meithrin mamaliaid a deunyddiau biolegol eraill a allai fod yn heintus.
Hyd/Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r cwrs wedi’i drefnu ar gyfer 1 diwrnod gwaith. Bydd seibiannau gydol y dydd.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal yn Saesneg
Y gost yw £90 y person ynghyd â TAW