Digwyddiadau

Cymrodoriaethau UKRI i Arweinwyr y Dyfodol

Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol – UKRI @Aberystwyth

Mae rownd 10 o gynllun Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol (FLF) a gynhelir gan Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI) wedi'i chyhoeddi ac mae Prifysgol Aberystwyth yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb oddi wrth ymgeiswyr sy'n dymuno gwneud cais am gynllun Cymrodoriaethau UKRI, a leolir gydag Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Nod cynllun FLF yw magu’r to nesaf o arweinwyr ymchwil ac arloesi o'r safon uchaf yn y byd academaidd, byd busnes ac mewn amgylcheddau arloesol eraill. Mae'r cynllun yn cynorthwyo prifysgolion, sefydliadau ymchwil a busnesau i ddatblygu eu hymchwilwyr, eu harloeswyr a’u darpar arweinwyr mwyaf talentog, neu i ddenu pobl newydd i'w sefydliadau. Mae'r cynllun hefyd yn agored i ymgeiswyr rhyngwladol sydd am ymgymryd â rôl mewn sefydliad yn y DU.

Dylai’r ymgeiswyr ymgyfarwyddo â dogfen galwad y cyllidwr i weld a ydynt yn haddas i’r cynllun. Gellir dod o hyd i fanylion llawn y cynllun ar wefan UKRI.

Mae Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ganolfan ymchwil a dysgu o fri rhyngwladol, sy'n darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil sy’n ymateb i heriau byd-eang megis diogelu cyflenwadau bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd⁠, afiechydon heintus ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â gwyddoniaeth ddarganfod bur. Mae ein harbenigwyr yn cynnal ymchwil ar enynnau a moleciwlau, ar organebau cyfan a'r amgylchedd, ac yn cael eu cydnabod am arwain ymchwil byd-enwog. Er enghraifft, mae gwaith arloesol Prifysgol Aberystwyth yn helpu i fynd i’r afael ag effaith ddinistriol llyngyr lledog parasitig, sy’n achosi clefydau mewn pobl ac mewn da byw, ac fe gafwyd cydnabyddiaeth am y gwaith hwnnw yng Ngwobrau Pen-blwydd y Frenhines yn 2023.

Mae gan Brifysgol Aberystwyth hyd at 2 le ar gael ac maent yn chwilio am ymgeiswyr addas a fydd yn cyd-fynd â'r meysydd ymchwil isod.

Mae croeso i ymgeiswyr yn y meysydd canlynol:

  • Rhyngweithio rhwng y lletywr a’r pathogen (yn cydweithio â Chanolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer TB Gwartheg (CBTB) a Chanolfan a Labordai Milfeddygol1),
  • Parasitoleg anifeiliaid a dynol,
  • Amaethyddiaeth gynaliadwy a bwydydd iach,
  • Ymaddasu at newid yn yr hinsawdd a lliniaru ei effeithiau,
  • Iechyd anifeiliaid a dynol cydgysylltiedig,
  • Bioamrywiaeth - ymchwilio a chadwraeth.

Y cyfleusterau a'r amgylchedd:

Amgylchynir tref Aberystwyth gan amgylchedd naturiol hardd a chynefinoedd amrywiol. Rhwng mynyddoedd y Canolbarth a glannau Bae Ceredigion, mae'n cynnig tirwedd o fryniau tonnog, dyffrynnoedd, traethau a’r môr.  Nid yw parciau cenedlaethol enwog Eryri a Sir Benfro yn bell o Aberystwyth, sy’n cynnig cyfleoedd gwych i fwynhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd.

Ceir y cyfleusterau ymchwil isod yn Aberystwyth, sydd heb eu hail, ac rydym yn annog ymgeiswyr i ystyried llunio eu cais eu hunain o amgylch defnyddio’r offer diweddaraf.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Canolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer TB Gwartheg (CBTB), a Chanolfan a Labordai Milfeddygol1, y ddwy mewn lle canolog ar Gampws Prifysgol Aberystwyth. Mae CBTB yn ganolfan ymchwil gydweithredol a rhyngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd ag arbenigedd ar TB buchol (bTB), a’i nod yw cynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddileu'r clefyd a darparu arweinyddiaeth ryngwladol yn y maes. Mae Canolfan a Labordai Milfeddygol1 yn darparu adnoddau diogel o'r radd flaenaf i astudio pathogenau sy’n effeithio ar anifeiliaid a phobl.  Drwy’r ddwy ganolfan hyn fe fydd Cymrodyr Arweinydd y Dyfodol yn cael manteisio ar arbenigedd academaidd o'r radd flaenaf ac ar offer labordy Lefelau Cyfyngu 2 a 3 er mwyn cael gweithio gyda micro-organebau pathogenaidd peryglus. Ynghyd â Chanolfan a Labordai1, mae rhai o'r prif gyfleusterau ymchwil a ddarperir gan Adran y Gwyddorau Bywyd yn cynnwys: Cabinetau Diogelwch Microbiolegol Dosbarth I, Dosbarth II a Dosbarth III, Microsgopeg – llwyfannau paratoi samplau, microsgopau sganio sleidiau, fflwroleuol a maes-llachar (Zeiss Axio Scan Z1 ac Axio Imager Z2) microsgopau sganio laser cydffocal (TCS SP5 a SP8), profion moleciwlaidd trwybwn uchel (qRT-PCR QuantStudio 7 a 12 a PCR digidol) ac imiwnolegol (ELISA), Darllenydd ELISPOT(CTL Immunospot S6 Universal), Dadansoddwr Aml-bleth (Luminex 200), Ymdriniaeth hylif awtomataidd (Eppendorf EpMotion 5070 a 5075t), Cytometreg Llif – Dadansoddwr (Beckman Coulter Cytoflex LX) a didolwr celloedd (Miltenyi Biotec Tyto), Dadansoddi Metabolaidd (llwyfan Agilent Seahorse XF), System Dadansoddi Celloedd Sengl (Becton Dickenson Rhapsody), Trawsgriptomeg (Proffilydd Nanostring Sprint), Microchwistrellu (WPI Microinjector MICRO ePUMP gyda bwrdd aer).

Mae cyfleusterau amaethu anifeiliaid yn golygu y gellir cynnal ymchwil i wartheg godro a defaid ar dir ffermio iseldir a mynyddig. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys diadell defaid y Brifysgol, a'r fuches odro, gan gynnwys y robotiaid godro awtomataidd sydd wedi’u gosod yn ddiweddar.  Mae'r adran hefyd yn cynnal llwyfan ymchwil i anifeiliaid cnoi-cil bychain, sef CIEL (£1.4M, Innovate UK a Phrifysgol Aberystwyth), sy'n cynnwys offer arbenigol fel siambrau resbiradaeth ac allyriadau methan, sy’n hwyluso gwaith monitro maeth a metaboledd anifeiliaid cnoi cil. Mae gan yr adran ddarpariaeth ardderchog ar gyfer ceffylau hefyd, gan gynnwys stablau ar gyfer 60 o geffylau a chyfleuster unswydd ar gyfer ymchwil i geffylau.  Mae'r adran yn cynnal uned acwaria cyfoes o faint da sy’n cynnwys dŵr croyw a dŵr heli ailgylchredeg.

Mae Adran y Gwyddorau Bywyd hefyd yn cynnal adnodd cylch bywyd Schistosoma mansoni mewn Uned Gwasanaethau Biolegol sydd newydd ei hadnewyddu, a llwyfan awtomataidd, trwybwn uchel (Dyfais Foleciwlaidd Delweddu Cynnwys Uchel, Agilent Cytation 7) ar gyfer adnabod cyfansoddion newydd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o gyffuriau anthelmintig.

Y broses ymgeisio:

Anfonwch ebost at jqs@aber.ac.uk os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch. Anfonir templedi ar gyfer ffurflen mynegi diddordeb a CV atoch a dylid eu dychwelyd erbyn 23-01-2025.

Bydd panel ymgeisio mewnol Prifysgol Aberystwyth wedyn yn asesu’r ceisiadau ac yn dewis y ddau a fydd yn mynd ymlaen i'r cam ymgeisio llawn. Gweler crynodeb o broses fewnol y Brifysgol isod:

  1. Bydd darpar ymgeiswyr yn cyflwyno mynegiant o ddiddordeb (EOI) a CV at jqs@aber.ac.uk erbyn 23.01.2025.
  1. Bydd y mynegiant o ddiddordeb (EOI) yn cael ei ystyried gan banel o fewn Adran y Gwyddorau Bywyd.
  1. Bydd y mynegiannau llwyddiannus yn symud ymlaen yn awtomatig i bwyllgor asesu adrannol y Brifysgol, sy'n cael ei gadeirio gan y Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil.
  1. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod am y canlyniad a bydd rhaid cyflwyno cynigion llawn i UKRI erbyn 18-06-2025

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned yn enwedig y rhai heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd.  Mae hyn yn cynnwys, ymhlith eraill, ymgeiswyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ymgeiswyr ag anableddau, a menywod.

Am ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â Jackie Sayce jqs@aber.ac.uk gan roi “UKRI” ym mhennawd testun yr ebost.

ABER TB 2025 - Prifysgol Aberystwyth

Brechiad - 17 Medi 2025

Cynhelir gan Ganolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer TB Buchol, Canolfan Milfeddygaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth a VetHub1.

 

Back to Top