Gwasanaeth Storio a Dadansoddi Semen Anifeiliaid

Mae gan Ganolfan a Labordai Milfeddygol1 adnoddau storio a
dadansoddi diogel i gefnogi eich rhaglen fridio.

Mae gan y Ganolfan adnoddau storio tymor byr a thymor hir, ac mae’n gallu dadansoddi hyfywedd semen er mwyn rhoi hwb i botensial bridio anifeiliaid. Gellir teilwra’r pecynnau crypoto-gadwraeth a chrypostorio i ddiwallu anghenion cwsmeriaid er mwyn sicrhau bod llinachau genetig yn cael eu diogelu.

NODWEDDION A GWASANAETH

  • Mae gan Ganolfan a Labordai Milfeddygol1 adnoddau storio diogel, sy’n rheoli pwy gaiff eu defnyddio.
  • Systemau monitro sy’n diogelu’r labordai 24 awr y dydd ac sy’n sicrhau bod samplau a chyfarpar yn cael eu cynnal a’u cadw i’r safon orau.
  • Cyfarpar gwyddonol ac adnoddau rhewi o’r radd flaenaf.
  • Gwasanaeth llogi rhewgelloedd symudol Stirling Ultracold.
  • Prosesu samplau a’u rhewi mewn gwellt semen.
  • Dadansoddi a pharatoi samplau ar ôl iddynt ddadmer.
  • Gwasanaeth postio diogel y gellir ei dracio.
  • Prisiau cystadleuol.
  • Gwasanaeth dwyieithog.

Animal Montage

Back to Top