Mae cydweddu arbenigedd ym maes ymchwil i glefydau milfeddygol gyda menter fasnachol yn ganolog i strategaeth VetHub1. Rydym ni’n croesawu cyswllt gyda diwydiannau a mentrau masnachol o bob maint.
Gan gyfuno ein cyfleusterau a’n harbenigedd gyda’r arbenigedd o fewn eich cwmni, byddwn yn ceisio datblygu cyfleoedd newydd ar gyfer datblygiad economaidd a fydd o fudd i bawb.
Rydym ni’n gallu teilwra’r math o gyswllt i fodloni gofynion eich cwmni. Mae VetHub1 yn cynnig y canlynol:
Mannau Cyfarfod
Llogir mannau cyfarfod o fewn VetHub1 er mwyn hwyluso'r rhyngweithio â'n harbenigwyr ymchwil a'n cyfleusterau labordy. Bydd y ganolfan swyddfeydd yn gweithredu fel Canolfan Arloesi, lle bydd cleientiaid yn cydweithredu â staff Canolfan a Labordai Milfeddygol1. Bydd swyddfeydd a desgiau ar gael (at ddefnydd unigolion ac ar sail y cyntaf i’r felin), yn ogystal â Wi-Fi, cyfleusterau parcio ar y safle a chyfleusterau gwneud te a choffi.
Gwasanaethau Sgrinio
Rydym ni’n cynnig y gallu i gynnal profion moleciwlaidd gyda thrwygyrch uchel (qRT-PCR) ac imiwnoleg (ELISA, ELlspot ayb) i ganfod presenoldeb/arwyddion o ficro-organebau pathogenig mewn samplau anifeiliaid a dynol.
Arbenigedd
Gwaith ymgynghorol gydag unrhyw un o'n tîm o arbenigwyr ar glefydau da byw.
Labordai Bio-ddiogel Lefel 3 a 2
Llogi lle o fewn ein labordai Bio-ddiogel Lefel 3 neu 2; lle bydd ein tîm yn cefnogi eich gwaith. Mae ein cyfleusterau CL3 a CL2 yn cynnwys cabinetau MSC Dosbarth 1 a MSC Dosbarth 2 ar gyfer meithrin micro-organebau pathogenig sy’n gyfrifol am glefydau anifeiliaid a dynol (neu milheintiol).
Mae’r Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol a’r Iaith Gymraeg, Eluned Morgan, wedi nodi bod VetHub1 yn ‘brosiect magnet’.
Ceir rhagor o fanylion yn yr adran ‘Prosiectau Magnet’ ar wefan llywodraeth Cymru: www.tradeandinvest.wales
Cyfleusterau
Labordai Bio-ddiogel Lefel 3
Labordai Bio-ddiogel Lefel 2
Cabinetau Diogel Microbiolegol Dosbarth I, Dosbarth II a Dosbarth III
Profion moleciwlaidd gyda thrwygyrch uchel molecular (qRT-PCR, nanoString) ac imiwnoleg (ELISA, ELlspot ayb)
Microsgop Confocal Laser Leica SP5
Hwylusydd ar gyfer asedau iechyd milfeddygol eraill lleol gan gynnwys