ABER TB 2026 – PRIFYSGOL ABERYSTWYTH

Lawrlwythwch y rhaglen

Yn sgil cynhadledd AberTB 2025, a oedd yn hynod boblogaidd, “Polisi ar Waith” fydd y thema i AberTB 2026.

Ddydd Mercher 16 Medi 2026, down at ein gilydd i glywed oddi wrth bob un o wledydd Prydain ac Iwerddon ynghylch eu polisïau ar TB. Daw’r thema “Polisi ar Waith” ar adeg o newid yn sgil y Llywodraeth newydd yng Nghymru, ailwampio polisi DEFRA ar ôl adolygiad Godfray, yn ogystal â diweddariadau polisi yn Iwerddon a Gogledd Iwerddon.

Cewch archebu’ch lle yma:  https://shop.aber.ac.uk/conferences-and-events/cynadleddau-conferences/adran-y-gwyddorau-bywyd-department-of-life-sciences/abertb-2026

Back to Top