Penodiadau Newydd yn VetHub1

Ym mis Mawrth, hysbysebodd y Brifysgol am arweinydd academaidd hirdymor ar gyfer VetHub¹ i gyflawni'r gwaddol masnachol ar gyfer y cyfleuster, ar ôl y cyfnod adeiladu. Rwyf yn falch o gyhoeddi bod yr Athro Karl Hoffmann wedi'i benodi i'r swydd hon o 1 Gorffennaf 2020.

Mae VetHub1 yn rhan allweddol o strategaeth y Brifysgol i ddarparu ymchwil arloesol ym maes gwyddoniaeth filfeddygol. Hefyd, fel prosiect a ariennir gan WEFO, bydd y cyfleuster yn anelu at ddatblygu profion diagnostig, gyda'r nod o hybu economi'r rhanbarth a thu hwnt.

Hoffwn ddiolch i'r Athro Luis Mur am ei holl waith caled dros y 18 mis diwethaf yn arwain y prosiect, mae wedi gosod sylfaen gadarn i Karl a'r tîm adeiladu arno.

At hynny, bydd Sean Kenny o'r adran Ystadau, sydd wedi gweithio ar y prosiect ers iddo gychwyn, hefyd yn gadael i ddechrau swydd newydd o fewn y brifysgol. Rwyf yn siŵr eich bod chithau fel minnau am ddymuno'n dda iddo. Mae gwaith Sean gyda Rob Darby a Jackie Sayce wedi bod yn amhrisiadwy i'r prosiect ac mae cyfoeth ei wybodaeth wedi cyfrannu at y labordai modern (sydd i'w cwblhau'n fuan).

Bydd Chris Pirson (chp62@aber.ac.uk) yn ymuno â thîm VetHub1 fel rheolwr labordy categori 3 o 1 Awst ymlaen. Bydd Chris wedi'i leoli yn adeilad Carwyn James, yn labordai VetHub1.   Ar hyn o bryd mae Chris yn Uwch Gynghorydd Biorisg a Chynghorydd Diogelwch Nwyddau Peryglus yn Immunocore yn Swydd Hampshire.

Unwaith y bydd y cyfnod adeiladu wedi'i gwblhau bydd angen i brosiect VetHub1 symud ymlaen i'r cam gweithredu. Hynny yw, bydd angen i'r tîm weithio'n agos gyda phartneriaid mewnol ac allanol i ddatblygu prosiectau arloesol sy'n arwain at ffrwd incwm gynaliadwy sy'n tyfu.

Mae'r brifysgol hefyd yn buddsoddi mewn labordy newydd wrth ymyl VetHub1 ar gyfer tîm Sêr Cymru, dan arweiniad yr Athro Glyn Hewinson.

Os oes gennych unrhyw ddiddordeb mewn gweithio yn y labordai, cysylltwch â Karl ar krh@aber.ac.uk

Mae'r sylwadau ar gau

Back to Top