Mae Canolfan Ragoriaeth TB Gwartheg Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi manylion ei chynhadledd flynyddol gyntaf sydd i'w chynnal yn ddiweddarach eleni.
Mi fydd Cynhadledd flynyddol TB Gwartheg y Ganolfan Ragoriaeth yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y 17eg Medi 2019.
Cyhoeddodd yr Athro Glyn Hewinson, sydd yn arwain ar ddatblygiad y Ganolfan Ragoriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, fanylion y gynhadledd yn ystod trafodaeth draws-ddiwydiannol am TB Gwartheg yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Mi fydd cynhadledd eleni yn canolbwyntio ar ddiagnosis TB gwartheg, ymarfer cyfredol a datblygiadau i'r dyfodol. Bwriad y digwyddiad undydd fydd darparu dealltwriaeth ehangach o brofion presennol a'u cyfyngiadau a rhagolwg ar brofion newydd sydd ar y gorwel.
Mi fydd y gynhadledd yn cynnwys cyfraniadau o feysydd ymchwil gwyddonol, milfeddygaeth, amaeth a llywodraeth. Mae rhaglen y gynhadledd i’w chael arlein yma.
Meddai'r Athro Glyn Hewinson o Ganolfan Ragoriaeth TB Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rhan o genhadaeth y Ganolfan Ragoriaeth yw creu ymwybyddiaeth bellach ar draws y diwydiant ynglŷn â datblygiadau ym maes TB Gwartheg ac ymdrechion i reoli’r clefyd niweidiol hwn. Felly rwyf yn falch iawn o gyhoeddi manylion y gynhadledd gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth.
“Fe fyddwn yn clywed cyfraniadau gan lawer o unigolion uchel eu parch a fydd yn gallu’n diweddaru am yr holl feysydd gwaith allweddol. Fodd bynnag, bwriad y digwyddiad yw hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth am sut mae arferion presennol a datblygiadau yn y maes hwn yn medru gwella a dylanwadu ar waith ffermwyr, milfeddygon, ymchwilwyr gwyddonol a llywodraeth er mwyn symud ymlaen yn ein brwydr yn erbyn TB gwartheg.
“Edrychaf ymlaen at groesawu pawb i Aberystwyth ym mis Medi.”
Mae manylion pellach am y gynhadledd, a gwybodaeth am sut i archebu lle ynddi, ar gael wrth gysylltu â tbcstaff@aber.ac.uk.
Mae’r Canolfan Ragoriaeth TB Gwartheg wedi derbyn cefnogaeth Sêr Cymru II, rhaglen a sefydlwyd er mwyn ehangu a datblygu arbenigedd ymchwil yng Nghymru. Caiff y rhaglen ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru a’r Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd.
Am y newyddion diweddaraf, dilynwch Canolfan Ragoriaeth TB Gwartheg Prifysgol Aberystwyth ar twitter @aber_tb.