Cynhadledd Aber TB 2025

Cliciwch i lawrlwytho'r rhaglen

Yn dilyn llwyddiant cynhadledd AberTB yn 2024 rydym yn falch iawn o gadarnhau 'Brechu' fel ein thema ar gyfer 2025.

Cynhelir y gynhadledd ar 17 Medi 2025, yng nghanolfan gynadleddau Medrus, Prifysgol Aberystwyth.

Mae brechiadau ar flaen y gad wrth fynd i'r afael â chlefydau buchol eraill fel Salmonela Dublin a BVD, fodd bynnag, rydym yn dal i aros am frechiad ar gyfer Mycobacterium Bovis. Yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE, mae treialon bellach yn digwydd yn y DU, a byddwn yn croesawu aelodau o dimau brechu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am frechu gwartheg a moch daear.

Cliciwch yma i sicrhau eich lle yn AberTB2025.  Cadwch lygad am yr wybodaeth ddiweddaraf ar Twitter (X) @aber_TB.

Back to Top