Brainwaves

Beth yw prosiect BRAINWAVES?

Mae Brainwaves yn cymryd ymagweddiad economi gylchog at amaethyddiaeth gynaliadwy. Gan ddefnyddio planhigyn dŵr cyffredin, o’r enw llinad y dŵr, mae gwyddonwyr Brainwaves yn treialu systemau technolegol arloesol i dyfu llinad y dŵr ar ffrydiau gwastraff amaethyddol, rhywbeth a wnaiff, os bydd yn llwyddiannus, gynnig i ffermwyr y buddion deublyg o lanhau gwastraff fferm ar yr un pryd â meithrin cnwd sy’n llawn protein. Yn ei hanfod, drwy amsugno maetholion gormodol (nitradau a ffosffadau), gall llinad y dŵr greu gwerth o wastraff ar ffurff cnwd llawn protein y gellir ei ddefnyddio mewn ymborth i anifeiliaid, gan leihau dibyniaeth ffermwyr ar ffa soia wedi’u mewnforio. Mae gan yr ymchwil hon y potensial i ddod â buddion economaidd ac amgylcheddol gwirioneddol i arferion ffermio yn Iwerddon, Cymru, a thu hwnt.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am brosiect Brainwaves.

Back to Top