ArloesiAber

Mae ArloesiAber yn cynnig cyfleusterau ac arbenigedd o ansawdd byd-eang o fewn y sectorau biotechnoleg, technoleg amaeth a bwyd a diod. Wedi'i leoli mewn golygfeydd godidog rhwng mynyddoedd Cambria a Môr Iwerddon, mae ein campws £40.5m yn cynnig amgylchedd blaengar lle y gall cydweithredu rhwng busnes a’r byd academaidd ffynnu.

Gall ein cyfleusterau o'r radd flaenaf gefnogi twf eich cwmni drwy ddad-risgio eich gweithgareddau ymchwil a datblygiad, hwyluso datblygiad cynnyrch a phrosesau newydd a chyflymu eich taith i'r farchnad.

Back to Top