CANOLFAN A LABORDAI MILFEDDYGOL1

Mae Canolfan a Labordai Milfeddygol1 yn Glwstwr Arloesi gwerth £4.2m sy'n cynnig adnoddau diogel i astudio Pathogenau Anifeiliaid a Phobl. Mae'r adnodd wedi’i leoli yng nghanol campws Prifysgol Aberystwyth, lle gallwch fanteisio ar arbenigedd academaidd gyda’r gorau yn y byd ac offer labordy o'r radd flaenaf. Fel cleient, gallwch ddefnyddio rhai o'r adnoddau Cyfyngu Lefel 3 a Lefel 2 gorau yn y Deyrnas Unedig. Mae'r adnodd hefyd yn cynnig swyddfeydd a mannau cydweithio i gleientiaid, a’r cyfan yn cael ei ategu gan Gymorth Busnes a Chymorth Technegol. Mae Canolfan a Labordai Milfeddygol1 yn un o sawl canolfan ymchwil ac arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n rhoi hwb i economi’r rhanbarth ac yn cynyddu cyflogaeth trwy fuddsoddiadau.

“Mae gan brifysgolion ran bwysig i'w chwarae wrth ddatblygu ymchwil sy'n effeithio ar y cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Bydd y labordai newydd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i economi cefn gwlad ac i'r diwydiant da byw yma yng Nghymru a'r tu hwnt, ac rydym yn falch o gael cydweithredu ar y prosiect hwn â phartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, Canolfan Milfeddygaeth Cymru a phartneriaid eraill.”

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure

Ein Gwasanaethau

Bwydo Twitter




Y newyddion diweddaraf

Cyfarfod â'r Staff

  • Ciel logo
  • GMWP Logo

Back to Top