Clefyd Johnes

Mae’r clefyd cronig hwn, sy’n cael ei achosi gan facteriwm, Mycobacterium avium, is-rywogaeth  paratuberculosis (a elwir yn aml yn MAP), yn gwneud niwed cynyddol i goluddion anifeiliaid sy’n cael eu heffeithio ganddo. Mewn gwartheg, mae arwyddion clinigol y clefyd yn cynnwys dolur rhydd, colli pwysau’n raddol a marw’n gynnar yn y pen draw.

Er nad yw’n hysbysadwy ym Mhrydain, argymhellir eich bod yn cysylltu â milfeddyg os ydych yn amau clefyd Johnes.

Mae’r Athro Luis A.J. Mur  yn arwain prosiect sydd hefyd yn cynnwys yr Athro Stephen Gordon o Goleg Prifysgol Dulyn i wella’r ganfyddiaeth o gamau cynnar Clefyd Johnes.

Mae’r gwaith hwn yn seiliedig ar gyfleusterau ynysu Categori 2 Canolfan a Labordai Milfeddygol1, ac yn cael ei ariannu gan raglen KESS2.

Back to Top